Materion Ymgyrchu

Yn ogystal â’n hymgyrchoedd cenedlaethol, gofynnir i mi yn rheolaidd i fod yn rhan o ymgyrchoedd lleol pwysig ledled y rhanbarth fel Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru. At hyn, yn fy rôl gyfredol fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, ’rwy’n cymryd rhan amlwg mewn ymgyrchoedd ar nifer o faterion addysg gwahanol.

Gallwch ddarllen mwy am yr ymgyrchoedd hyn isod.

Ymgyrchoedd Cenedlaethol

Yn 2005 bu i ni sicrhau rhai llwyddiannau mawr ar gael gwared â’r ffïoedd dysgu ychwanegol a chynnwys mwy o arian yng nghyllideb y Cynulliad ar gyfer ysgolion bach, gwasanaethau trenau a lleihau baich y treth cyngor ar yr henoed, a byddwn yn parhau i weithio gyda’r pleidiau eraill pan fo’n bosibl a phan fo’n golygu y byddai’n dod â buddiannau real i bobl Cymru.

A byddwn yn parhau i ymgyrchu am:

Senedd Go Iawn i Gymru
Hawl i Dai Fforddiadwy
Ariannu Teg i Gymru

Mae’r Blaid yn bwriadu chwarae rôl arweiniol wrth ffurfio dyfodol Cymru yn 2006.

Mae Cymru angen Llywodraeth newydd er mwyn gwneud gwelliannau parhaol, ond bwriadwn ddefnyddio ein safle fel y brif wrthblaid yn y flwyddyn lawn olaf cyn etholiad nesaf y Cynulliad er mwyn sicrhau newidiadau allweddol ar iechyd, addysg ac Amcan 1. Byddwn hefyd yn ceisio gwneud newidiadau i’r Mesur Llywodraeth i Gymru newydd er mwyn sicrhau y bydd y Cynulliad yn cael y pwerau deddfu y mae ei angen er mwyn gwneud ei waith yn briodol yn y dyfodol.

Byddwn yn galw am newidiadau sylweddol i’r rhaglen Amcan 1 y tro hwn, er mwyn gweld mwy o bwyslais ar greu swyddi cynaliadwy a delir yn dda yng Ngorllewin Cymru ac yn y Cymoedd. Bu i Lafur wastraffu llawer yn y rownd gyntaf, gan ein gadael mor dlawd nes ein bod yn gymwys ar gyfer yr ail rownd. Ni ellir gadael i’r un peth ddigwydd eto y tro hwn.

Erbyn hyn, ni all Llafur wthio ei raglen drwy’r Cynulliad heb ein cydweithrediad ni. Bwriadwn ddefnyddio ein dylanwad er mwyn sicrhau gwelliannau real yn y gwasanaeth iechyd, ac adeiladu ar ein llwyddiannau a gyflawnwyd mewn addysg yn 2005. Er gwaethaf y chwistrelliadau o arian, mae gwasanaeth iechyd Cymru yn parhau i lusgo y tu ôl i Loegr a’r Alban a rhaid i ni gau’r bwlch yn llawer iawn cyflymach. Mae rhai pethau y gallwn ei wneud yn awr, er y byddai’n gofyn cael newid yn y Llywodraeth er mwyn cael pethau i symud yn eu blaenau.

Materion Lleol Pwysig yng Ngogledd Cymru

Rhai o’r gweithiau mwyaf boddhaol yr wyf yn ei wneud yw helpu unigolion gyda’u problemau, a all yn llythrennol fod yn unrhyw beth o frwydro yn erbyn fandaleiddio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, atgyweirio slabiau palmentydd, chwilio am gymorth ar gyfer cwteri wedi’u tagu neu hyd yn oed roi dim ond cyngor ar ble i gael hyd i'r ateb.

Fel Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru mae fy ngwaith yn golygu y gofynnir i mi fod yn rhan o nifer o wahanol faterion ledled y rhanbarth. Rhai o’r enghreifftiau diweddar yw:

Wrecsam a Sir y Fflint

Diogelu dyfodol Clwb Pêl-droed Wrecsam, brwydro yn erbyn lleoliadau gwael mastiau ffonau symudol a chladdfeydd sbwriel yn Wrecsam, gwella gwasanaethau adferiad cyffuriau, denu mwy o nyrsys a doctoriaid arbenigol i Sir y Fflint, cyllid gwell i ysgolion Sir y Fflint.

Sir Ddinbych

Rhwystro cau ysgolion bach yn ddianghenraid yn Sir Ddinbych, gwrthwynebu codi tâl parcio ceir yn ysbyty Glan Clwyd a chau Hostel Ieuenctid Llangollen, mwy o dai fforddiadwy, gwell cefnogaeth i sefydliadau elusennol yn y Rhyl a chefnogi ffermwyr yn Nyffryn Clwyd.

Conwy

Ariannu teg i Rwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru a leolir ym Mhenmaenmawr, buddsoddi cyfalaf mewn gwasanaethau osteoporosis yn Ysbyty Llandudno, gwell lleoedd parcio i breswylwyr Bae Colwyn, cadw offer hanfodol yng Ngorsaf Dân Llandudno, gwell defnydd o wasanaethau niwro-adferiad ym Mae Colwyn.

Gwynedd a Môn

Cefnogi siaradwyr Cymraeg yn Ysbyty Gwynedd, mwy o fuddsoddiad i wasanaethau rheilffordd ar gyfer masnach a theithwyr yn Nyffryn Conwy, yr angen am drydedd lôn ar Bont Britania, a chefnogi ffordd osgoi Porthmadog.

Materion Addysg

Fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg a Dysgu Gydol Oes ers 2003 ’rwy’n falch iawn o’n llwyddiannau i gael gwared â’r ffïoedd dysgu ychwanegol i fyfyrwyr yng Nghymru a cheisio am ariannu tecach i’n hysgolion a’n colegau. Byddaf yn parhau i arwain ymgyrch y Blaid i wrthwynebu cau ysgolion bach heb fod angen, yn enwedig y rhai hynny yn ein cymunedau gwledig.

I sicrhau gwell addysg, mynnwn cyllid digonol ar gyfer addysg yng Nghymru, yn seiliedig ar ddileu Fformiwla Barnett a phwerau deddfu llawn i’r Cynulliad ym maes addysg.

Byddaf yn parhau i ymgyrchu am fwy o fuddsoddiad i addysg blynyddoedd cynnar ac i ysgolion llai, yn enwedig rhai gwledig, ac am fwy o gyfleoedd i ddisgyblion sy’n gadael yr ysgol ac am golegau a phrifysgolion Cymreig gyda’r gorau yn y byd.

Mae ein hathrawon a’n darlithwyr ymysg y gweithwyr proffesiynol mwyaf ymroddedig a welwch fyth, a chred ei fod yn ddyletswydd arnaf i frwydro yn erbyn y Llywodraeth Lafur am well tâl ac amodau iddynt.

Byddem yn gwrthwynebu gosod unrhyw oedran ymddeol newydd i athrawon heb drafodaeth a chytundeb. Gwerthfawrogwn yr holl dîm yn ein hysgolion, yn cynnwys staff cymorth.

Wrth gwrs, mae’r Blaid wedi bod - ac am fod - ar flaen y gâd yn yr ymgyrch am fwy o fuddsoddiad mewn addysg Gymraeg ar bob lefel, o ysgolion meithrin i addysg Gymraeg gyflawn mewn coleg ffederal ym Mhrifysgol Cymru.