Busnes y Cynulliad
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys chwe deg Aelod etholedig ledled Cymru.
Mae Janet Ryder AC yn un o ugain o aelodau a etholwyd trwy gynrychiolaeth gyfrannol ac yn un o bedwar aelod sy’n cynrychioli Gogledd Cymru gyfan yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Cynulliad wedi dirprwyo nifer o’i bwerau i’r Prif Weinidog, sy’n arwain Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Am ragor o wybodaeth ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ei hanes, ei gyfansoddiad a’i bwerau, os gwelwch yn dda dilynwch y ddolen hon i wefan swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Er mwyn canfod pa gwestiynau a ofynodd Janet Ryder i Weinidogion Llywodraeth y Cynulliad yn ddiweddar; neu i ddarllen rhai o’i hareithiau yn ystod dadleuon y Cynulliad; neu i ganfod pa Ddatganiadau Barn y mae Janet wedi eu codi neu wedi eu harwyddo yn ddiweddar, os gwelwch yn dda, defnyddiwch y dolennau isod.