Bywgraffiad
Fe etholwyd Janet gyntaf ym 1999, ac y mae地 cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ystod ei thymor cyntaf yn y Cynulliad, Janet oedd Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a Chymunedau ac yn 2002 rhoddwyd cyfrifioldebau pellach iddi dros Gyllid.
Ailetholwyd Janet Ryder AC ym mis Mai 2003 i wasanaethu am ail dymor, ac y mae地 un o ddeuddeg aelod o池 grナオp Plaid Cymru. Yn dilyn yr ad-drefnu yng Nghabinet yr Wrthblaid ym mis Tachwedd 2003 daeth Janet yn Weinidog yr Wrthblaid dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. Ym mis Ebrill 2006, i gyd fynd a newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y Cynulliad, newidiwyd y portffolio i Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Nawr mae cyfrifoldebau cysgodol Janet yn cynnwys ysgolion, addysg bellach a datblygu sgiliau, addysg uwch, y gwasanaeth ieuenctid a池 gwasanaeth gyrfaoedd.
Mae Janet yn eistedd ar y pwyllgorau canlynol yn y Cynulliad Cenedlaethol:
- Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
- Pwyllgor Ariannu Ysgolion
- Y Pwyllgor Deddfau
- Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol
- Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru
Ganed Janet Ryder yn Sunderland ym 1955 ac fe段 haddysgwyd yn Newcastle on Tyne. Symudodd gyda段 theulu i Gymru ym 1990 ac ers hynny dysgodd y Gymraeg. Mae ei thri phlentyn hefyd yn ddwyieithog. Ymysg diddordebau a difyrion Janet y mae Rygbi池 Gynghrair, cerddoriaeth werin, diddordebau teuluol a gweithgareddau cymunedol.
Mae Janet wedi gwneud llawer iawn o waith gwirfoddol a chymunedol yn ei thref gartref yn Rhuthun a hithau yn gyn-athrawes ac yn gyn-weithwraig ieuenctid. Hi yw Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Canolfan Awelon ac yn gyn-gyfarwyddwraig ar fwrdd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.
Mae Janet wedi cyfrannu地 weithgar iawn i lywodraeth leol am nifer o flynyddoedd, a chyn iddi gael ei hethol i池 Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, bu地 Gynghorydd Cyngor Sir Ddinbych (1995 - 1999), yn aelod o Gyngor Tref Rhuthun (1993 - 2003) ac yn Faeres Rhuthun ddwywaith (Mai 1998 - Mai 2000).